
Mae’r wefan ar gyfer unigolion sy’n astudio celfyddydau perfformio ac wedi ei gynllunio’n benodol i ddatblygu sgiliau ar gyfer uned 1 ac uned 3, Celfyddydau Perfformio TGAU CBAC. Gall ddisgyblion lawrlwytho “Cynllun Gweithredu” er mwyn eu harwain drwy’r broses. Mae perfformwyr a thechnegwyr proffesiynol wedi creu canllawiau astudio i gynorthwyo disgyblion i adeiladu a datblygu eu sgil dewisedig. Gall ddisgyblion wylio enghreifftiau o waith ymarferol ar gyfer pob sgil, gan gynnwys cyflwyniadau technegol. Yn dilyn y rhain, ceir enghreifftiau o werthusiadau i gynorthwyo disgyblion gyda rhai eu hun.
Mae yna hefyd wersi a gweithgareddau y gall athrawon ddefnyddio, yn ogystal â rhestr eirfa y gellir ei lawrlwytho. Mae cyflwyniadau Powerpoint ar gael i dywys disgyblion tuag at gyflawni isafswm y gofynion ar gyfer unrhyw sgil technegol maent yn dewis.
Hafan.
Esiampl o dudalen fideo.
Esiampl o sut mae cael offer ac yna gosod.