DVD sy’n cynnwys 14 fideo o lyfrau yn cael eu darllen. Gallwch wylio’r DVD ar eich pen eich hun, neu gyda’ch plentyn i gael magu hyder yn adrodd y stori. Yna beth am ddarllen y stori i’r plentyn ar eich pen eich hun? Mae ystod eang o lyfrau yma o lyfr bygi Jac y Jwc i destun heriol Tair Dafad Fach. Gellir hefyd rhoi’r ddisg yn eich cyfrifiadur i gael mynediad at daflenni sy’n rhoi trosolwg o’r llyfrau ac yn cynnig cwestiynau i’w holi i’r plentyn.
Mae’r DVD yn cynnwys y llyfrau canlynol:
- Y Sgip Fawr
- Yr Amser Gorau Erioed
- Y Fuwch Goch Gota a’i Geiriau Cynta’
- Wyt ti’n Barod Jac y Jwc
- Tair Dafad Fach
- Sblash yn y Bath
- Sbectol Ceridwen
- Nawr ‘Te Blant
- Myn Brain i!
- Maw!
- Peppa Pinc – Hwyl yn y Ffair
- Cacen Sali Mali
- Beth Sy’ Jac?
- Alun yr Arth: Ar y Fferm
Os hoffech wneud unrhyw ymholiadau ynglŷn â derbyn DVD, croeso i chi gysylltu.